Andrew Mitchell
Mae Syr George Young wedi cael ei benodi’n brif chwip y Llywodraeth heno yn sgil ymddiswyddiad Andrew Mitchell.

Roedd ’na bwysau cynyddol wedi bod ar Andrew Mitchell i ymddiswyddo yn sgil ei ffrae gyda phlismyn yn Downing Street. Honnir iddo eu galw’n “plebs” ar ôl iddyn nhw wrthod caniatáu iddo seiclo drwy brif glwydi Downing Street.

Mae Syr George Young wedi bod yn Aelod Seneddol ers 1974. Roedd wedi dal nifer o swyddi gweinidogol yn ystod yr 80au a’r 90au, gan ddod yn Ysgrifennydd Trafnidiaeth yn 1995.

Cafodd ei olynu fel Arweinydd Tŷ’r Cyffredin gan y cyn-Ysgrifennydd Iechyd Andrew Lansley.