Mae dynes 32 oed wedi marw ac mae 11 o oedolion a phlant wedi eu hanafu yng Nghaerdydd ar ôl i fan achosi dinistr yn y ddinas.

Mae’r rheini sydd wedi eu hanafu, gan gynnwys saith o blant, yn cael eu trin yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn y brifddinas.

Bu’n rhaid cau adran achosion brys yr ysbyty i unrhyw un nad oedd wedi eu hanafu yn ystod yr ymosodiad.

Cafodd dyn 31 oed ei arestio ar amheuaeth o lofruddio wedi i’r heddlu atal fan ger tafarn Merrie Harrier yn Llandochau ar gyrion y ddinas.

Fe ddigwyddodd yr achosion o daro a ffoi mewn chwe lleoliad gwahanol yn Nhrelai a Lecwydd.

Yn ol adroddiadau, roedd gyrrwr y fan wedi targedu pobl a phlant oedd yn cerdded ar y pafin.