Mae disgwyl i chwyddiant fod wedi gostwng ostwng i’w lefel isaf ers bron i dair blynedd ym mis Medi.

Mae arbenigwyr yn rhagweld y bydd ffigurau swyddogol heddiw yn dangos bod Mynegai Pris Defnyddwyr (CPI) wedi gostwng i 2.2% ym mis Medi o 2.5% ym mis Awst – ond mae rhai’n credu y bydd wedi gostwng yn is na tharged y Llywodraeth o 2%.

Ond mae ’na bryderon na fydd yn aros yn isel yn hir wrth i filiau tanwydd ddechrau cynyddu.