Poeni am arian yn arwain at ostwng safonau, meddai darlithydd
Mae darlithydd dienw wedi cyhuddo prifysgolion Cymru o ostwng safonau er mwyn denu myfyrwyr tramor, gan godi amheuon hyd yn oed am dwyll.

Mae ei honiadau’n sail i adroddiad llawnach gan y BBC sy’n honni fod safonau’n cael eu gostwng, yn arbennig mewn cyrsiau fel rhai MBA – gradd Meistr mewn Gweinyddiaeth Fusnes.

Yn ôl y darlithydd, mae tiwtoriaid yn dod dan bwysau i basio gwaith israddol, mae gwaith cwrs yn disodli arholiadau a does dim sicrwydd bob tro mai’r myfyrwyr sy’n gwneud y gwaith cwrs.

‘Cywilyddus’

“Mae’n gywilyddus,” meddai’r darlithydd dienw wrth iddo alw am gorff cryfach i gadw llygad ar safonau.

Hanfod ei gyhuddiadau yw fod gallu Saesneg llawer o fyfyrwyr tramor yn rhy isel i basio arholiadau’n llwyddiannus.

Ond mae mwy nag un o bob deg o fyfyrwyr Cymru yn dod o wledydd tramor ac mae eu harian yn hanfodol o ran incwm prifysgolion.

Yn ôl y darlithydd, fe fu cynnydd anferth yn y nifer yn ystod y tair blynedd diwetha’, yn enwedig myfyrwyr o China.

Sylwadau’r darlithydd

Mae’r BBC yn dweud eu bod yn cuddio enw’r darlithydd rhag ofn iddo golli ei swydd ac mae yntau wedi mynnu mai cynnal safonau yw’r unig reswm sydd ganddo tros ei ddatganiad.

Dydyn nhw ddim wedi dweud beth yw ei bwnc chwaith ond mae’r rhan fwya’ o’r sylw ar gyrsiau MBA sydd ar gael mewn naw prifysgol yng Nghymru – er fod y darlithydd yn dweud fod problemau gyda chyrsiau gradd eraill hefyd.

“Mae angen i ni gael newid diwylliannol,” meddai wrth raglen Good Morning Wales. “Mae angen i reolwyr mewn Addysg Uwch symud oddi wrth eu ffocws ar arian a throi yn ôl at reswm craidd ein bodolaeth, sef i ddarparu addysg o safon byd.”

Pwysau ar diwtoriaid

Doedd y pwysau ar diwtoriaid ddim yn amlwg, meddai, ond pe bai tiwtoriaid yn dechrau methu nifer sylweddol o fyfyrwyr, fe fyddai’r sylw’n troi arnyn nhw.

Roedd pobol yn ofni siarad ar goedd, meddai, wrth i swyddi gael eu colli ynghanol ad-drefnu prifysgolion.

Mae’r BBC yn dweud eu bod yn ceisio casglu enghreifftiau o draethodau MBA gan brifysgolion Cymru.