Mae bws deulawr yn cludo plant ysgol wedi  troi drosodd mewn cae yn Dorset, meddai’r heddlu.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r digwyddiad ar yr A350 rhwng Upton a Lytchett yn Poole toc wedi 8.15 y bore ma yn dilyn adroddiadau bod bws wedi troi drosodd.

Dywed Heddlu Dorset bod tri o deithwyr a’r gyrrwr wedi cael triniaeth am “fan anafiadau.”