Mae dyn 64 oed o Fro Morgannwg wedi marw ar ôl i gwch droi drosodd yn Cape Town yn Ne Affrica.

Mae’r Swyddfa Dramor wedi cadarnhau bod Peter Hyett o’r Barri wedi marw yn y digwyddiad ym Mae Hout ger Cape Town ddydd Sadwrn.

Cafodd nifer o Brydeinwyr eraill oedd ar y cwch eu cludo i’r ysbyty ond mae’n debyg eu bod nhw bellach wedi cael eu rhyddhau.

Yn ôl adroddiadau, roedd Peter Hyett ar wyliau gyda’i deulu yn Ne Affrica am bythefnos ac roedd disgwyl iddyn nhw ddychwelyd i’r DU dros y penwythnos.

Fe lwyddodd ei wraig Suzanne, 63, a’i ferch Helen, 37, o Bournemouth, i oroesi’r ddamwain.

Roedd dwy ddynes arall o Brydain – Lynette Hartmann, 55, a Bronwyn Armstrong – wedi cael eu hachub gan ddeifwyr ar ôl cael eu darganfod o dan y cwch.

Cafodd corff John Roberts, fu’n arwain y daith, ei ddarganfod yn ddiweddarach.

Roedd 38 o bobl ar fwrdd y cwch a chafodd 24 eu cludo i’r ysbyty gydag anafiadau.

Dyw hi ddim yn glir ar hyn o bryd beth achosodd i’r cwch droi drosodd ger Ynys Duiker, sy’n boblogaidd gydag ymwelwyr sydd am weld morloi.

Mae swyddogion morwrol yn ymchwilio i achos y ddamwain.