Jimmy Savile
Mae aelod o staff yn y BBC wedi datgelu ei fod wedi holi Jimmy Savile ynglŷn â sïon am ei fywyd preifat dros 20 mlynedd yn ôl.

Dywed yr heddlu eu bod yn ymchwilio i honiadau bod y cyflwynydd teledu wedi cam-drin hyd at 60 o bobl dros gyfnod o 60 mlynedd.

Dywedodd Derek Chinnery, rheolwr BBC Radio 1 rhwng 1978 a 1985 a phennaeth Savile, ei fod wedi holi’r cyflwynydd ynglŷn â’r sïon.

Dywedodd wrth BBC Radio 4: “Nes i ofyn ‘be ydy hyn, yr holl sïon ma rydan ni’n eu clywed amdanoch chi, Jimmy?’. Ac fe ddywedodd, ‘mae hynny i gyd yn nonsens.’ Doedd dim rheswm i mi beidio ei gredu.”

Mae cyfres o honiadau wedi cael eu gwneud am Jimmy Savile ar ôl i ITV ddarlledu rhaglen ddogfen lle’r oedd pum dynes wedi honni iddyn nhw gael eu cam-drin yn rhywiol ganddo. Yn ôl Scotland Yard mae’r honiadau’n ymestyn o 1959 i 2006.