Megan Stammers
Mae llys yn Ffrainc wedi dyfarnu y dylai’r athro a gafodd ei arestio ar ôl teithio i Ffrainc gydag un o’i ddisgyblion, gael ei estraddodi i Brydain i wynebu cyhuddiadau.

Cafodd Jeremy Forrest ei arestio yn Bordeaux yr wythnos diwethaf, ar amheuaeth o gipio’r ferch 15 oed, Megan Stammers.

Mae’n athro mathemateg yn Ysgol Eglwys Loegr Bishop Bell, lle mae Megan Stammers yn ddisgybl.

Cafodd lluniau o’r ddau yn dal dwylo ar fferi eu canfod ar ôl iddyn nhw deithio o Dover i Calais.

Bydd yn rhaid iddo ddychwelyd adref o fewn 10 diwrnod.

Doedd Jeremy Forrest ddim yn y llys i glywed y cyhuddiadau yn ei erbyn.