Andrew Mitchell
Mae Prif Chwip y Llywodraeth, Andrew Mitchell wedi tynnu allan o gynhadledd y Blaid Geidwadol yn dilyn ffrae pan gafodd ei gyhuddo o alw’r heddlu’n “plebs”.

Dywedodd ffrind iddo ei fod wedi rhoi gwybod i’r Prif Weinidog, David Cameron na fyddai’n mynd i Birmingham, rhag ofn iddo dynnu’r sylw oddi ar y gynhadledd.

Doedd dim disgwyl y byddai’n annerch y gynulleidfa.

Ymddiheurodd Andrew Mitchell am y digwyddiad pan gafodd ei atal rhag mynd trwy glwydi Downing Street ar gefn ei feic.

Ond mae’n gwadu iddo alw’r heddlu’n “plebs”.