Andrew Mitchell
Mae protest yn cael ei chynnal yn Sutton Coldfield yn erbyn toriadau yng nghyllideb yr heddlu.
Mae tua 15 o swyddogion yr heddlu wedi ymgasglu y tu allan i swyddfa’r Aelod Seneddol lleol a’r Brif Chwip, Andrew Mitchell.
Roedd yna adroddiadau’r wythnos diwethaf ei fod e wedi rhegi ar swyddog yr heddlu y tu allan i Downing Street a’i alw’n “pleb”.
Ymddiheurodd am regi, ond gwadodd iddo ddefnyddio’r gair “pleb”.