Mae ymchwil ddiweddar yn dangos bod y mwyafrif o bobl yn gwrthwynebu cynlluniau dadleuol i gyflwyno tâl rhanbarthol.

Mae beirniaid yn dweud y byddai’r tâl yn annheg i weithwyr yn y sector cyhoeddus.

Dim ond un o bob pedwar sy’n cefnogi’r cynllun i gyflwyno tâl amrywiol i nyrsys, athrawon a gweithwyr eraill yn y sector cyhoeddus.

‘Problemau recriwtio’

Mae undebau eisoes wedi rhybuddio y byddai’r cynllun yn ei gwneud hi’n anos i ysgolion ac ysbytai mewn ardaloedd difreintiedig i recriwtio staff gan y byddai’n rhaid gostwng cyflogau.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngres yr Undebau Llafur (TUC), Brendan Barber: “Dylai gweinidogion fod yn gwrando ar yr Aelodau Seneddol hynny sy’n byw mewn rhannau llai llewyrchus o’r DU ac sy’n ymwybodol iawn o effaith niweidiol y gallai rhewi cyflogau am gyfnod hirach ei gael ar eu heconomi leol, sydd eisoes yn cael ei chwalu wrth i deuluoedd leihau eu gwariant ac wrth i galedi eu taro’n galed.

“Os yw ysbytai unigol yn cael clywed y bydd rhaid iddyn nhw osod eu cyfraddau cyflog eu hunain yn y dyfodol, gallai amser a chymhlethdod y trafodaethau cyflog a ddaw yn sgil hynny, yn ogystal â phroblemau recriwtio ddilyn – gan fod modd talu cyflog uwch i staff sy’n gallu symud i rannau eraill o’r Gwasanaeth Iechyd – gael effaith niweidiol ar ofal i gleifion.

“Fydd cynlluniau tâl rhanbarthol y Llywodraeth ddim yn helpu i greu un swydd newydd yn y sector preifat, a gall ond niweidio economi leol sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd.

“Y peth mwyaf synhwyrol y gallai gweinidogion ei wneud yw anghofio’r cynlluniau difeddwl hyn a chanolbwyntio, yn hytrach, ar bolisïau a fydd yn mynd i’r afael â diweithdra a chynyddu cyfleoedd y DU i greu twf yn yr economi.”

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol Unite, Gail Cartmail: “Mae Unite wedi dweud ers y dechrau fod torri cytundebau cenedlaethol ar gyfer systemau tâl rhanbarthol yn gam yn ôl a fydd yn ei gwneud yn anos i ysbytai ac ysgolion mewn mannau mwy difreintiedig ac mewn rhannau anghysbell o’r wlad i recriwtio a chadw staff.

“Does a wnelo cynlluniau i gyflwyno cyflog cod post ddim â gwella gwasanaethau na gofal i gleifion – mae’n ymwneud â gostwng cyflog a pharatoi gweithluoedd y sector cyhoeddus ar gyfer preifateiddio.”