Mae llefarydd addysg  y Ceidwadwyr, Angela Burns wedi galw unwaith eto am sefydlu rheoleiddiwr arholiadau annibynnol yng Nghymru.

Daw ei chais diweddaraf yn dilyn ffrae rhwng y Gweinidog Addysg yng Nghymru, Leighton Andrews ac Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Prydain, Michael Gove am ail-raddio canlyniadau TGAU.

Mae Angela Burns o’r farn na all Leighton Andrews gwblhau’r swydd driphlyg o lunio’r cwricwlwm, gosod papurau arholiad ac adolygu’r system.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn gofidio y gallai’r ffrae ddiweddar danseilio’r gwaith sydd wedi cael ei wneud wrth adolygu’r cymwysterau, ac mae disgwyl adroddiad ar ddyfodol TGAU yn yr hydref.

Dydwedodd Angela Burns: “Mae angen rheoleiddiwr arholiadau annibynnol arnom er mwyn atal gwleidyddion rhag ymyrryd yn y system cymwysterau yng Nghymru.

“Mae ymddygiad y Gweinidog yn tynnu sylw oddi ar waith pwysig yr adolygiad ar ddyfodol cymwysterau i bobl 16 oed.

“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig am weld dadl go iawn ar sut gallwn ni sicrhau cymwysterau cadarn sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol, sy’n cynnwys meincnodau byd-eang cystadleuol i roi’r dechrau gorau posib i bobl ifanc yn eu bywydau.

“Dylai’r ddadl hon gydnabod cryfder y brand TGAU, ond hefyd archwilio manteision systemau cymwysterau cadarn ar draws y byd.”