Abu Hamza
Mae’r clerigwr Mwslemaidd Abu Hamza a phedwar o derfysgwyr honedig  wedi colli eu hapêl i aros yn y DU.

Yn dilyn penderfyniad Llys Hawliau Dynol Ewrop fe all Abu Hamza a’r pedwar arall gael eu hanfon i’r Unol Daleithiau o fewn y dyddiau nesaf.

Mae apêl Hamza a’r terfysgwyr honedig yn erbyn cael eu hestraddodi i’r Unol Daleithiau wedi costio miliynau o bunnoedd mewn costau cyfreithiol.