Yn ôl arbenigwyr tywydd gall rhai ardaloedd weld gwerth mis o law mewn 24 awr heddiw yn dilyn glaw trwm oedd wedi achosi trafferthion ar hyd y wlad ddoe.
Gall hyd at 100mm, bron i bedair modfedd, o law ddisgyn erbyn diwedd y dydd gan achosi i afonydd orlifo, medd y Swyddfa Dywydd.
Fe fydd y glaw trwm ar ei waethaf yng Nghymru a Gogledd Lloegr ac mae disgwyl i’r tywydd gwlyb barhau tan ganol yr wythnos.
Rhybudd i yrwyr
Roedd y glaw trwm wedi achosi trafferthion mewn sawl rhan o Gymru ddoe ac wedi achosi oedi ar y rheilffyrdd.
Roedd ’na oedi ar wasanaeth Trenau Arriva Cymru rhwng Caergybi a Chaer oherwydd dŵr ar y cledrau yn y Fflint ac oedi hefyd i drenau oedd yn gadael Cymru yn y de o achos llifogydd rhwng twnnel yr Hafren a Bryste.
Roedd y gwasanaethau brys yng Ngwent wedi bod yn pwmpio dŵr oddi ar strydoedd yn ardal Wyesham yn Nhrefynwy, ac fe gyhoeddodd Asiantaeth yr Amgylchedd rhybudd o lifogydd ar gyfer afonydd Llynfi, Ogwr ac Ewenni yn ardal Penybont-ar-Ogwr.
Cafodd nifer o ffyrdd eu cau ym Mhowys, Sir y Fflint a Sir Ddinbych oherwydd llifogydd ac roedd ’na adroddiadau hefyd o lifogydd lleol yn Neganwy ger Conwy.
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn annog pobl i baratoi eu hunain ar gyfer llifogydd, ac i gadw llygad ar adroddiadau tywydd lleol. Mae pobl hefyd yn cael eu rhybuddio i gadw draw rhag afonydd sy’n gorlifo ac i osgoi gyrru eu ceir drwy’r llifogydd.
Dywedodd ar AA eu bod wedi cael eu galw i helpu 200 o gerbydau oedd wedi mynd i drafferthion yn y llifogydd.