Llun o'r crys-T o wefan Tesco heddiw
Fe gafodd cwmni archfarchnadoedd Tesco ei gondemnio gan fudiadau hawliau am werthu crys-T sydd, medden nhw, yn diraddio merched.

Ac er bod  gwasanaeth newyddion y PA yn dyfynnu’r cwmni’n dweud nad yw ar werth bellach, mae Golwg 360 wedi darganfod bod modd ei archebu o hyd ar wefan Tesco am ddim ond £5.

Yn ôl y cwmni, roedd y crys yn “eitem ddoniol” a doedd dim bwriad i achosi dig.

Mae’r crys-T yn dangos silwét o ferched trwy lygaid sbienddrych, gyda’r slogan ‘Bird Watching’ o tano.

‘Achos pryder’

Mae mudiadau hawliau merched yn dweud bod y crys yn “ddiraddiol” ac yn achos pryder trwy droi merched yn wrthrychau rhyw.

Mae dau fudiad – Object a’r Glymblaid i Roi Diwedd ar Drais yn Erbyn Merched – wedi cwyno am y crysau a oedd ar werth yn y siopau am £6.

“Mae’n dad-ddyneiddio merched gan eu troi’n wrthrychau rhyw ac yn defnyddio iaith rywiaethol i alw merched yn ‘birds’.” Meddai Anna van Heeswijk o Object. “Mae’r negeseuon am ferched yn achos pryder.”