Cameron Drummond - ar goll
Mae Heddlu De Cymru’n gofyn am gymorth i geisio dod o hyd i fachgen 15 oed sydd wedi bod ar goll o’i gartre’ ers bron dair wythnos.

Mae Cameron Drummond wedi diflannu o’i gartref yn ardal y Gellifedw – Birchgrove – yn Abertawe ar 1 Chwefror.

Tyn ôl yr heddlu, roedd wedi cael ffrae gyda’i fam ac maen nhw’n amau ei fod yn rhywle yn ardal Caerdydd.

Disgrifiad

Maen nhw wedi cyhoeddi disgrifiad ohono:

  • Mae’n 5’11” o daldra gyda gwallt brown a llygaid glas.
  • Roedd yn gwisgo jîns glas golau, crys-T hufen gyda phatrwm aur a chôt lwyd gyda hwd.
  • Roedd ganddo trainers gwyn.

Fe ddylai unrhyw un sy’n ei weld, gysylltu gyda’r heddlu ar101.