Y Cyrnol Gaddafi

Mae pryder cynyddol ymhlith gwledydd y Gorllewin wrth i’r awdurdodau yn Libya sathru’n galed ar brotestwyr.

Yn ôl adroddiadau o’r wlad yng ngogledd Affrica – lle mae newyddiadurwyr yn cael eu goruchwylio’n ofalus – roedd bron 100 o bobol wedi cael eu lladd erbyn diwedd y dydd ddoe.

Mae rhai hyd yn oed yn honni bod arfau gwrth-awyrennau wedi’u defnyddio gan gefnogwyr yr unben, Muhammar al-Gaddafi.

Roedd pobol eraill wedi cael eu lladd gan ynnau Kalashnikov yn ail ddinas fwya’r wlad, Benghazi, sy’n ganolbwynt i’r gwrthdystiadau.

Yn ôl Ysgrifennydd Tramor Prydain, William Hague, roedd gweithredoedd Llywodraeth Libya yn “annerbyniol a dychrynllyd” ond, yn ystod y blynyddoedd diwetha’, mae’r berthynas rhwng y Cyrnol Gaddafi a Phrydain a’r Unol Daleithiau wedi gwella’n sylweddol.

Tawelach yng ngweddill y rhanbarth

Mae hi wedi bod rhywfaint tawelach yng ngweddill y gwledydd Arabaidd, er bod protestwyr wedi meddiannu Sgwâr y Perlau yng nghanol prifddinas Bahrain.

Ond, erbyn hyn, mae’r teulu brenhinol yno wedi gorchymyn y fyddin i beidio ag ymateb ac maen nhw wedi cynnig trafodaethau.

Fe gafodd eu hagwedd nhw ei chroesawu gan William Hague wrth siarad ar y ffôn gyda mab y brenin.