Carwyn Jones yn areithio yn Llandudno ddoe (Gwifren PA)
Mae’r Ceidwadwyr wedi ymosod ar y Prif Weinidog Carwyn Jones ar ôl ei araith fawr yng nghynhadledd y Blaid Lafur yn Llandudno ddoe.

Roedden nhw’n ei gyhuddo o gwyno am bawb arall, gan wrthod ei gyfrifoldeb ei hun.

Yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Nick Bourne, roedd wedi dangos “yr un hen rethreg, yr un hen ryfel dosbarth a’r un hen Lafur”.

“Gweithredu” oedd neges fawr Carwyn Jones, gan ddweud bod y Llywodraeth wedi treulio gormod o amser yn trafod polisi a phroses yn hytrach na’u rhoi ar waith.

Dangos i’r Deyrnas Unedig

“Ein gwaith yw dangos, nid yn unig i bobol Cymru, ond i weddill y Deyrnas Unedig hefyd, bod yna ffordd wahanol i’r un sy’n cael ei chynnig gan y Torïaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol,” meddai.

Fe ddywedodd mai blaenoriaeth Llywodraeth Lafur yng Nghymru fyddai mynd i’r afael â thlodi a diweithdra ymhlith pobol ifanc ac fe fydden nhw hefyd yn ei gwneud hi’n haws i bobol weld eu meddygon teulu.

Wfftio’r addewidion a wnaeth un o ACau’r Ceidwadwyr, Darren Millar. Roedd Llafur eisoes wedi cael 12 mlynedd i weithredu, meddai.