Mae’r Arglwydd Coe wedi ymosod ar y wasg ym Mhrydain gan ddweud nad ydyn nhw wedi rhoi digon o sylw i’r Gemau Paralympaidd.
Roedd yn feirniadol o benderfyniad y papurau i roi blaenoriaeth i fuddugoliaeth tîm pêl-droed Lloegr yn hytrach na champau’r athletwyr anabl.
Doeth dim llawer o sylw i fedal aur y taflwr disgen Josie Pearson, 26 oed, medal aur ddoe.
Dioddefodd hi anafiadau difrifol i’w asgwrn cefn mewn damwain car yn Goytre, ger Port Talbot, yn 2003.
“Mae dyfodol chwaraeon Paralympaidd yn dibynnu ar y wasg a darlledwyr. Mae’n rhaid iddyn nhw wneud yr ymdrech i roi sylw i’r gemau a sicrhau bod eu poblogrwydd yn ymestyn y tu hwnt i dair neu bedair wythnos y gemau,” meddai.
“Roeddwn i’n siomedig pa mor gyflym y llwyddodd y pêl-droed i daro’r Gemau Paralympaidd o dudalennau cefn y papurau newydd.
“Roedd y darostyngiad hwnnw’n gynamserol. Rydyn ni wedi gwneud ein gorau glas dros y saith mlynedd diwethaf i sicrhau bod dyfodol i’r campau yma.
“Mae’r gweddill yn dibynnu i raddau helaeth ar y wasg.
“Rydyn ni wedi dangos bod campau Paralympaidd yn anhygoel. Rhaid i chi ddatblygu ar hynny.
“Doedd yr holl sylw i gêm Lloegr neithiwr ddim yn arwydd da.”