Fe fydd y Gemau Paralympaidd yn cau yfory â seremoni arall a fydd yn gweld y fflam Olympaidd yn Llundain yn cael ei ddiffodd am byth.

Bydd y seremoni yn cynnwys Coldplay, y fyddin, a byddin o wirfoddolwyr, meddai trefnwyr y gemau.

Mae disgwyl y bydd yr artistiaid Americanaidd Jay-Z a Rihanna hefyd yn cymryd rhan.

Dywedodd y cyfarwyddwr Kim Gavin, a oedd hefyd wedi trefnu seremoni cloi’r Gemau Olympaidd, y bydd yn “gyfle i dalu teyrnged i ysbryd y ddynoliaeth”.

“Rydyn ni wedi gweld cymaint o bobol yn cyflawni yn erbyn y ffactorau dros y pythefnos diwethaf,” meddai.

“Rydyn ni wedi recriwtio byddin o bobol a fydd yn goresgyn y stadiwm a dod a chreu gŵyl o gerddoriaeth.

“Fe fydd yn noson i ddathlu bod y fflam ar fin diffodd am y tro olaf.”