Chris Coleman
Dywedodd hyfforddwr Cymru, Chris Coleman, bod ei dim wedi dioddef yn sgil dyfarnu gwael wrth iddyn nhw golli 2-0 yn erbyn Gwlad Belg yng Nghaerdydd neithiwr.

Roedd Cymru wedi dechrau’n dda yn erbyn yr ymwelwyr yn Stadiwm Dinas Caerdydd cyn i James Collins gael cerdyn coch ar ôl tacl beryglus ar Guillaume Gillet wedi 25 munud.

Protestiodd yr amddiffynnwr 29 oed o West Ham yn groch ond roedd y fideo yn awgrymu nad oedd ganddo ryw lawer o le i gwyno.

Pylodd gobeithion y tîm cartref o hynny ymlaen, ac fe sgoriodd Vincent Kompany gôl gyntaf Gwlad Belg ar ôl 42 munud.

Ychwanegodd Jan Vertonghen gôl arall saith munud cyn y chwiban olaf er mwyn sicrhau tri phwynt i’w dim.

Ond dywedodd Chris Coleman nad oedd yn credu bod Collins yn haeddu cerdyn coch, a bod penderfyniadau’r dyfarnwr wedi bod yn amheus drwy gydol y nos.

“Efallai fy mod i’n dangos fy ochor fan hyn, ond dydw i ddim yn credu ei fod yn haeddu cerdyn coch,” meddai.

“Roedd penderfyniad y dyfarnwr yn seiliedig ar ymateb y chwaraewr gafodd ei daclo. Llwyddodd hwnnw i chwarae’r 90 munud llawn.

“Mae pêl-droed yn gêm lle mae chwaraewyr yn bwrw i mewn i’w gilydd yn bur aml. Doedd yna ddim byd cas am y dacl.

“Rydw i wedi bod mewn pêl-droed yn ddigon hir i wybod pryd mae chwaraewr yn mynd amdani o ddifri i wneud niwed a doedd hynny dim yn wir yn yr achos yma.

“Dydw i ddim yn mynd i gosi James. Mae’n rhaid bod yn gorfforol yn erbyn timoedd fel Gwlad Bleg.