Alan Tate - degawd da'r clwb
Mae clwb pêl-droed Abertawe wedi bod yn dathlu’r canmlwyddiant heddiw yn entrychion yr Uwch Gynghrair, ddeng mlynedd ar ôl llwyddo i osgoi disgyn o’r Gynghrair Bêl-Droed yn gyfangwbl.

Ar Fedi 7, 1912, chwaraeodd Abertawe eu gêm gyntaf, a honno’n gêm gyfartal yn erbyn Caerdydd ar gae’r Vetch.

Hanes cythryblus a gafodd y clwb ar hyd y blynyddoedd, gan ddod yn agos at ostwng o’r Gynghrair ar sawl achlysur.

Ond ar ddiwrnod o ddathlu, mae’n siŵr y bydd y cefnogwyr yn awyddus i hel atgofion melys am eu harwyr a’r gemau cofiadwy.

Un o’r cefnogwyr hynny yw’r Parchedig Eirian Wyn, sydd bellach yn gaplan ar Academi Bêl-Droed Abertawe, yn gofalu am y timau ieuenctid.

Dywedodd wrth Golwg360: “Y diwrnod hwnnw yn erbyn Hull sy’n sefyll ma’s i fi ar hyd y blynyddoedd – dyna’r diwrnod y cafodd y clwb ei achub rhag disgyn o’r Gynghrair Bêl-Droed.”

Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, mae Abertawe yn mwynhau llwyddiant ar y lefel uchaf ac yn ôl Eirian Wyn, mae cartref newydd y tîm yn Stadiwm Liberty wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad y clwb.

“Mae pethau wedi newid yn fawr ers hynny, ac mae cael cartref o’r fath safon â’r Liberty wedi bod yn fantais, yn sicr. Mae cyflwr y cae yn arbennig o dda.”

Y Gwaredwr Huw Jenkins

Y dyn sy’n cael ei ystyried yn waredwr y clwb gan y cefnogwyr yw’r cadeirydd presennol, Huw Jenkins.

Daeth Jenkins yn gadeirydd yn y cyfnod ar ôl i’r clwb gael ei brynu oddi wrth Tony Petty am £1, a’r dyfodol yn ansicr iawn.

Ychwanegodd Eirian Wyn: “Mae e’n ddyn cadarn, synhwyrol. Mae e’n gadeirydd sy’n caru’r gêm a’r clwb. Mae e wedi bod yn araf yn gwario arian, ond ar ddiwedd y dydd, mae e’n gwneud popeth er lles y clwb.”

Mae’n anochel y bydd rhai yn cymharu llwyddiant y tîm presennol dan Michael Laudrup â thîm John Toshack yn yr hen Adran Gyntaf ar ddechrau’r 1980au.

Ond mae Eirian Wyn yn dadlau nad oes modd eu cymharu.

Dywedodd: “Dych chi ddim yn gallu cymharu’r ddau dîm. Yn sicr mae’r pasio’n well o lawer erbyn hyn, ond roedd gan chwaraewyr fel Tommy Smith y sgiliau i gyd yn y cyfnod hwnnw hefyd.”

Pan gafodd Abertawe eu dyrchafu i’r Uwch Gynghrair wrth guro Reading yn Wembley, roedd Eirian Wyn yn eistedd y tu ôl i’r gôl.

“Roedd y lle’n orlawn a’r sŵn yn fyddarol. Roedd e’n bair swnllyd a doeddwn i ddim wedi stopio gwenu trwy’r prynhawn, heblaw pan oedd hi’n edrych fel ciciau o’r smotyn!”

Jacs y Gogledd

Un cefnogwr oedd yn methu bod yn Wembley oedd y canwr ac un o ‘Jacs y Gogledd’, Meilyr Emrys.

Dywedodd: “Ro’n i ar fy ngwyliau yn Texas ar y pryd. Ro’n i wedi bwcio gwyliau cyn gwybod bod Abertawe yn y ffeinal yn Wembley.

“Ond ro’n i am weld y gêm, felly fe wnes i dalu tanysgrifiad o $15 i gael Fox Sports yn y gwesty er mwyn cael gweld y gêm.

“Dwi dal yn pinsho fy hun. Ychydig yn ôl, roedden ni bron â disgyn o’r Gynghrair, ac mae’n anodd credu bod gynnon ni chwaraewr fatha Michael Laudrup yn rheolwr arnon ni erbyn hyn.

“Bydd o’n ychwanegu rhywbeth ffres i’r tîm. Roedd y timau eraill yn dechra gweld trwyddan ni tymor dwytha.”