Aled Davies yn derbyn y fedal aur am daflu'r ddisgen
Hyd yn hyn mae wedi bod yn ymgyrch lwyddiannus tu hwnt i Brydain yn y gemau Paralympaidd ond hefyd yn un hynod o lwyddianus i Gymru.
Fe wnaeth Johnny Peacock ennill y fedel Aur neithiwr yn y ras 100 medr gan ei rhedeg mewn 10.9 eiliad (yr ail amser cyflymaf yn hanes, tu ôl i record ei hun).
Ac wedi neud hynny fe wnaeth Prydain guro eu targed medalau yn y gemau Paralympaidd.
Y cyfanswm hyd yn hyn yw 108.
Fe fydd Rachel Morris yn cystadlu yn y rownd derfynol H1-3 yn y seiclo llaw.
Hefyd mi fydd Sara Head yn rhan o dîm tenis fwrdd wrth iddynt herio yr Eidal am y fedel Efydd.
Mi fydd Kyron Duke o Cwmbrân yn cystadlu yn y rownd derfynol o’r gwayffon F40.
Ac fe fydd Joise Pearson o Swydd Henffordd yn herio am fedel wrth iddi gystadlu yn rownd derfynol F51 o daflu’r ddisgen. Josie Pearson oedd y ddynes gyntaf i gynrychioli Prydain yn rygbi mewn cadair olwyn ond yn awr yn canolbwyntio ar fedel Aur wrth daflu’r ddisgen.