Ed Miliband
Mae arweinydd Llafur yn San Steffan, Ed Miliband wedi dweud bod “yr un hen wynebau” yng nghabinet newydd David Cameron, ac mai’r “un hen bolisïau” sydd gan y Ceidwadwyr.

Gwnaeth y sylwadau yn sesiwn Holi’r Prif Weinidog y bore yma, ddiwrnod ar ôl i David Cameron gyhoeddi pwy fydd yn ei gabinet newydd.

Dywedodd Ed Miliband: “Fe welson ni ad-drefnu ddoe. Fe ddaeth e â David Laws yn ôl, fe ddyrchafodd e’r Ysgrifennydd Diwylliant a ddylai fod wedi’i ddiswyddo, ac fe adawodd e’r Canghellor rhan-amser yn ei le y mae’r wlad gyfan yn gwybod y dylai fod wedi’i ddiswyddo.

“Yr un hen wynebau ydyn nhw, yr un hen bolisïau, ad-drefniad heb newid.”

Heathrow

Mae’n ymddangos bod rhai o aelodau meinciau cefn y Ceidwadwyr hefyd wedi digio wrth y Prif Weinidog, yn enwedig ar ôl i Justine Greening golli ei swydd fel Gweinidog Trafnidiaeth.

Manteisiodd Maer Llundain, Boris Johnson ar y cyfle i annog y Prif Weinidog i addo na fyddai’n parhau â’i gynllun y tu hwnt i Etholiad Cyffredinol 2015 i adeiladu trydedd lain lanio yn Heathrow.

Ategodd David Cameron ei ddymuniad i weld ei lywodraeth yn mynd ati i sicrhau datblygiad.

“Rwy am i bob un adran ganolbwyntio ar yr economi. Rwy am i’r adran drafnidiaeth adeiladu heolydd, rwy am i’r adran gymunedau adeiladu tai, rwy am i’r adran ddiwylliant weithredu band llydan, rwy am i’r adran amaeth gefnogi bwyd Prydeinig.

“Mae hon yn llywodraeth sydd o ddifri am ei busnes ac mae gennym y tîm i’w chyflwyno.”

Mae’r Prif Weinidog wedi gwadu fod y Democratiaid Rhyddfrydol yn anhapus ynglyn a nifer o’r penodiadau newydd.

“Er gwaetha’r holl anhawster ariannol, mae hon yn llywodraeth gref ac unedig, ac er gwaetha’r holl gyfleoedd, mae’r wrthblaid yn wan ac yn rhanedig,” meddai David Cameron.

Ychwanegodd David Cameron ei fod yn ymfalchïo yn y ffaith fod gan y Ceidwadwyr cyn-löwr yn gyfrifol am drafnidiaeth – rhywbeth, meddai’r Prif Weinidiog, na lwyddodd Llafur Newydd i’w gyflawni.

‘Ail Ganghellor’

Cyhuddodd Ed Miliband y Prif Weinidog o benodi ail Ganghellor drwy roi swydd Gweinidog heb Bortffolio i’r cyn-Ganghellor Ken Clarke.

Dywedodd fod Ken Clarke wedi’i benodi er mwyn rhannu’r swydd gyda George Osborne.

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg wedi gwadu bod y Glymblaid wedi symud ymhellach i’r dde.

Dywedodd ar ymweliad ag ysgol: “O’r diwrnod cyntaf, roedd y llywodraeth hon â’i thraed yn sownd yn y tir canol. Mae gennym gytundeb clymbleidiol sydd yn ei le, ac sy’n gadarn wrth amlinellu i ba gyfeiriad rydym ni’n symud. Fydd hynny ddim yn newid. “