Dywed yr heddlu bod y dyn a’r ddynes  y cafwyd hyd iddyn nhw’n farw mewn afon, yn gwpl yn eu 40au o ardal Surrey.

Roedd rhan o’r Afon Bure yn Norfolk wedi ei chau ar ôl i ferch 13 oed gael ei darganfod ar ei phen ei hun ar gwch ddydd Sadwrn.

Cafwyd hyd i gorff y cwpl yn yr afon ddoe.

Mae’r heddlu’n trin eu marwolaethau fel rhai anesboniadwy ond nid ydyn nhw’n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r ymchwiliad.

Credir mai’r ddynes oedd mam y ferch a’r dyn oedd ei phartner.

Mae archwiliad post mortem yn cael ei gynnal i geisio darganfod beth oedd achos eu marwolaeth.