Mae bachgen 15 oed wedi ei gael yn euog o ladd merch yn ei harddegau, yn dilyn ffrae ar y wefan gymdeithasol Facebook.

Clywodd llys yn yr Iseldiroedd fod y ferch wedi cael ffrae â merch arall ar y safle.

Ceisiodd y bachgen ladd tad y ferch hefyd.

Mae’r bachgen – a gafodd ei enwi’n Jinhua K yn y llys – wedi cael dedfryd o flwyddyn yn y carchar, y ddedfryd hwyaf y gellir ei roi i blentyn.

Bydd yn rhaid iddo dderbyn triniaeth seiciatrig mewn canolfan ieuenctid am dair blynedd.

Mae’r ferch arall, ynghyd â bachgen arall, wedi cael eu cyhuddo o drefnu i ladd y ferch.