Mae Pencampwriaeth blymio ryngwladol Red Bull yn dod i wledydd Prydain am y tro cyntaf y penwythnos yma.

Bydd plymwyr proffesiynol o wledydd megis Mecsico, yr Unol Daleithiau a Rwsia yn plymio o uchder o 27m i mewn i’r Blue Lagoon yn Abereiddi, Sir Benfro.

Dyma fydd y naid blymio uchaf i gael ei pherfformio yng Nghymru ac mae’r bwrdd bron i dair gwaith yn uwch na’r bwrdd uchaf yn y Gemau Olympaidd.

Un o’r rhai fydd yn cystadlu yw’r plymiwr Olympaidd Blake Aldridge, a fu’n bartner deifio i Tom Daley.

Hen chwarel yw’r Blue Lagoon sydd wedi cael ei lenwi gan ddŵr y môr ac sy’n boblogaidd gan y rheiny sy’n hoff o arfordiro, sef neidio o greigiau i mewn i’r dŵr.

Mae pencampwriaeth y Red Bull yn dechrau ddydd Gwener a bydd y rownd derfynol ddydd Sadwrn. Mae’n cael ei darlledu ar deledu lloeren yn hwyrach eleni.