Chris Coleman
Yn dilyn anaf difrifol i Neil Taylor, mae rheolwr Cymru, Chris Coleman, wedi galw ar Ben Davies i gymryd ei le yng ngharfan y tîm cenedlaethol.
Mi fydd cefnwr chwith Cymru ac Abertawe, Neil Taylor, yn methu gweddill y tymor ar ôl torri ei bigwrn mewn sawl lle.
Fe ddisgynnodd yn lletchwith yn dilyn gwrthdrawiad yn y gêm rhwng Abertawe a Sunderland yn y Barclays Premier League ddydd Sadwrn.
Daeth y Cymro Cymraeg ifanc, Ben Davies, sy’n 19 oed, ymlaen yn ei le ar ôl 20 munud o chwarae’n unig.
Mae Cymru eisoes yn gorfod ymdopi heb Craig Bellamy, Joe Ledley, Andrew Crofts, David Vaughan a Wayne Hennessey oherwydd anafiadau.
Bydd Cymru’n chwarae Gwlad Belg yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 7 Medi ac yna’n teithio i Novi Sad i herio Serbia ar 11 Medi ar gyfer eu dwy gêm gynta’ yn y gemau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd yn 2014.
Mae Coleman yn dal i ddisgwyl am ei fuddugoliaeth gyntaf yn rheolwr Cymru yn dilyn y golled ddiweddaraf yn erbyn Bosnia-Herzegovina fis diwethaf.
Carfan Cymru
Jason Brown (Aberdeen), Boaz Myhill (West Bromwich Albion), Lewis Price (Crystal Palace); Darcy Blake (Crystal Palace), James Collins (West Ham United), Chris Gunter (Reading), Joel Lynch (Huddersfield Town), Adam Matthews (Celtic), Sam Ricketts (Bolton Wanderers), Ashley Williams (Abertawe), Ben Davies (Abertawe); Joe Allen (Lerpwl), David Edwards (Wolves), Andy King (Caerlŷr), Aaron Ramsey (Arsenal, capten), Jonathan Williams (Crystal Palace); Gareth Bale (Tottenham Hotspur), Craig Bellamy (Caerdydd), Simon Church (Reading), Steve Morison (Norwich City), Hal Robson-Kanu (Reading), Sam Vokes (Burnley), Robert Earnshaw (Caerdydd).