Airbus 1-0 Bala


Roedd un gôl yn yr hanner cyntaf yn ddigon i sicrhau’r tri phwynt i Airbus nos Wener wrth iddynt groesawu’r Bala i’r Maes Awyr.

Bu bron i Ryan Wade roi Airbus ar y blaen yn yr eiliadau agoriadol cyn i Steve Tomassen wneud hynny wedi  18 munud. Cafodd foli Ian Kearney ei hatal gan amddiffyn y Bala ond Tomassen oedd y cyntaf i ymateb gan guro Ashley Morris yn y gôl i’r ymwelwyr.

Cafodd y Bala gyfleoedd i unioni pethau yn yr ail hanner ond roedd Ian Sheridan yn wastraffus yn erbyn ei gyn glwb.

Mae’r canlyniad yn codi Airbus dros ben y Bala i’r wythfed safle tra mae tîm Colin Caton yn disgyn i’r degfed safle.

(Torf – 261)

Caerfyrddin 1-1 Lido Afan

Gôl yr un a phwynt yr un oedd hi ar Barc Waun Dew nos Wener diolch i gôl hwyr gan yr ymwelwyr.

Daeth y gôl agoriadol i Gaerfyrddin ddeg munud cyn yr egwyl yn dilyn gwrthymosodiad chwim. Gwaith da gan Jamie Hood i lawr y dde a Jack Christopher yn rhwydo i gôl wag wrth y postyn pellaf.

Gallai Lido fod wedi cael cic o’r smotyn yn yr ail hanner a tharodd Paul Fowler y postyn o bellter i Gaerfyrddin ond bu rhaid aros tan yr eiliadau olaf am ail gôl y gêm. Roedd chwe munud o amser a ganiateir am anafiadau wedi eu chwarae pan ergydiodd Mark Jones i’r gornel isaf i unioni’r sgôr i Lido Afan.

Mae’r canlyniad hwn yn dod â record gant y cant Caerfyrddin i ben ond mae tîm Mark Aizlewood yn aros yn ail yn y tabl. Mae Lido ar y llaw arall yn aros yn safleoedd y gwymp er gwaethaf eu pwynt cyntaf o’r tymor.

(Torf – 431)

Port Talbot 1-0 Y Drenewydd

Cipiodd Port Talbot eu buddugoliaeth gyntaf o’r tymor nos Wener wrth i’r Drenewydd adael Stadiwm GenQuip yn waglaw.

Daeth unig gôl y gêm hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf – Jeff White yn curo gôl-geidwad y Drenewydd, David Roberts, cyn chwarae’r bêl ar draws y cwrt chwech i David Brooks ac yntau’n rhwydo.

Cafodd Steve Blenkinsop gyfle euraidd i unioni’r sgôr yn yr ail hanner ond peniodd dros y trawst pan yn gwbl rydd.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi Port Talbot o waelod y tabl i’r nawfed safle tra mae’r Drenewydd yn disgyn i’r pumed safle ar ôl colli am y tro cyntaf y tymor hwn.

(Torf – 186)

Y Seintiau Newydd 4-1 Prestatyn

Mae record di lychwin Y Seintiau yn parhau wedi i’r pencampwyr chwalu Prestatyn ar Neuadd y Parc nos Wener.

Agorodd Greg Draper y sgorio wedi dim ond naw munud yn dilyn pas hyfryd dros yr amddiffyn gan Sam Finley. Ychwanegodd Ryan Fraughan ddwy mewn deg munud ar ddechrau’r ail hanner, y naill yn dilyn rhediad twyllodrus yn y cwrt cosbi a’r llall yn dilyn methiant Prestatyn i amddiffyn tafliad.

Sgoriodd Jason Price gôl gysur dda i Brestatyn ugain munud o’r diwedd cyn i Finley gwblhau’r sgorio i’r Seintiau gyda rhediad penderfynol ac ergyd gywir yn yr eiliadau olaf.

Mae’r Seintiau yn aros ar frig y tabl diolch i’r fuddugoliaeth tra mae Prestatyn yn disgyn i’r chweched safle.

(Torf – 321)

Bangor 7-1 Aberystwyth

Cafodd Aberystwyth eu chwalu gan Fangor yng ngêm fyw Sgorio yn Nantporth brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd Sion Edwards hatric wych wrth i’r tîm cartref fynd ar y blaen o 6-1 cyn yr egwyl ac ychwanegodd Chris Simm seithfed mewn ail hanner distawach.

Mae’r canlyniad yn codi Bangor i’r trydydd safle tra mae Aberystwyth yn disgyn i waelod y tabl.

(Torf – 530)

Gap Cei Connah 3-1 Llanelli

Parhau mae dechrau da Cei Connah i’r tymor yn dilyn buddugoliaeth yn erbyn Llanelli yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy brynhawn Sadwrn.

Sicrhaodd y newydd-ddyfodiaid y fuddugoliaeth diolch i goliau ail hanner Gary O’Toole, Ricky Evans a Michael Thompson, a gôl gysur yn unig oedd ymdrech hwyr Martin Rose i’r ymwelwyr.

Rhwydodd O’Toole ei ail o’r tymor yn gynnar yn yr ail hanner cyn i Evans ddyblu’r fantais toc cyn yr awr. Sicrhaodd Thompson y fuddugoliaeth ddau funud o’r diwedd gyda’i ail yntau o’r tymor cyn i Rose rwydo i dîm Andy Legg.

Mae’r tri phwynt yn codi Cei Connah i’r pedwerydd safle tra mae’r Cochion yn disgyn i’r hanner gwaelod ac i’r seithfed safle.

(Torf – 143)