Bydd y nofiwr Ellie Simmonds yn gobeithio am fedal aur yn y medli unigol 200m ar ôl iddi dorri record y byd yn y rhagras yn y Gemau Paralympaidd y bore ma.

Enillodd y ras mewn tri munud a 6.97 eiliad gan dorri ei record flaenorol, a sicrhau lle yn y ffeinal heno.

Y ferch 17 oed o Abertawe oedd eisoes yn dal y record byd cyn y ras.

“Mae’n waith eithaf caled,” meddai Ellie Simmonds. “Mae ‘na lawer mwy o bwysau arna’ i yma. Fi sy’n dal record y byd felly ro’n i’n eitha’ nerfus.”

Fe fydd Ellie Simmonds, sydd â’r cyflwr corachedd, yn gobeithio gwneud fel y gwnaeth yn Beijing bedair blynedd yn ôl – hawlio dwy fedal aur.

Nos Sadwrn, fe chwalodd Ellie Simmonds record y byd wrth gipio’r fedal aur yn y ras 400 metr dull rhydd.

Fe fydd y nofiwr o Gasnewydd, Liz Johnson, hefyd yn cystadlu yn y ffeinal ar ôl gorffen yn y seithfed safle.

Ar hyn o bryd, mae gan Brydain 54 o fedalau – 16 ohonyn nhw’n aur, 24 arian ac 14 efydd.