Neil Taylor
Mi fydd amddiffynnwr Cymru ac Abertawe, Neil Taylor, yn methu gweddill y tymor ar ôl torri ei bigwrn mewn sawl lle.

Fe ddisgynnodd y cefnwr chwith yn lletchwith yn dilyn gwrthdrawiad yn y gêm rhwng Abertawe a Sunderland yn y Barclays Premier League ddydd Sadwrn.

Daeth y Cymro Cymraeg ifanc, Ben Davies, ymlaen yn ei le ar ôl 20 munud o chwarae’n unig.

Dywedodd rheolwr yr Elyrch, Michael Laudrup, mai “damwain” oedd y digwyddiad, gan ychwanegu fod yr amddiffynnwr ifanc o Ruthun wedi bod yn “anlwcus.”

Roedd Neil Taylor yn un o bum Cymro a chwaraeodd dros Dîm GB yn y Gemau Olympaidd dros yr haf.

Roedd disgwyl iddo fod yn ddewis cyntaf i Gymru yn y gemau rhagbrofol i Gwpan y Byd sy’n dechrau yn erbyn Gwald Belg nos Wener.