Oscar Pistorius
Mae’r rhedwr Paralympaidd, Oscar Pistorius, wedi ymddiheuro am amseriad ei sylwadau ar ôl iddo gwyno am lafnau rhedeg yr enillydd yn y ras 200m ddoe.

Dywedodd y rhedwr o Dde Affrica na ddylai’r Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol (IPC) fod wedi caniatáu Alan Oliveira i wisgo llafnau a oedd yn fwy na’r rhai yr oedd o yn eu gwisgo.

Daeth y rhedwr o Frasil yn ôl i guro’r ras T44 200m o drwch blewyn mewn 21.45 eiliad. Fe orffennodd Oscar Pistorius yn ail mewn 21.52 eiliad gan adael y dorf o tua 80,000 wedi’u synnu.

“Byswn i byth yn hoffi difrïo athletwr arall o’i lwyddiant ac fe hoffwn ymddiheuro am amseru fy sylwadau yn syth ar ôl y ras ddoe,” meddai Oscar Pistorius mewn datganiad y bore ma.

“Mi rydw i’n teimlo fod yna fater (i’w ddatrys) yma ac fe fyddwn i’n croesawu’r cyfle i drafod gyda’r IPC ond ‘dw i’n derbyn fod codi’r amheuon yn syth ar ôl dod oddi ar y trac yn beth anghywir i wneud,” ychwanegodd.

“Moment Alan (Oliveira) oedd hwn ac fe hoffwn bwysleisio’r parch sydd gen i tuag ato.

“Rydw i’n athletwr Paralympaidd balch iawn ac yn credu mewn tegwch mewn chwaraeon,” meddai. “Rydw i’n barod i weithio gyda’r IPC sy’n amlwg yn rhannu’r un ddelfryd.”

Bu Oscar Pistorius yn cystadlu yn y ras 400m yn y Gemau Olympaidd yn gynharach yn yr haf – y rhedwr anabl cyntaf i wneud hynny.