Caerdydd 3–1 Wolves
Sgoriodd Peter Wittingham hatric wrth i Gaerdydd drechu Wolves yn y Bencampwriaeth yn Stadiwm y Ddinas brynhawn Sul.
Er i’r ymwelwyr o Wolverhampton fynd ar y blaen wedi dim ond deg munud fe darodd Wittingham a Chaerdydd yn ôl yn syth gyda dwy gôl mewn pum munud. Yna cwblhaodd y chwaraewr canol cae ei hatric i sicrhau’r fuddugoliaeth hanner ffordd trwy’r ail hanner.
Agorodd Bakary Sako y sgorio i’r ymwelwyr gyda chic rydd yn dilyn trosedd gan Whittingham ar Sylvan Ebanks Blake ar ochr y cwrt cosbi.
Ond gwnaeth Wittingham yn iawn am ei gamgymeriad bron yn syth. Cafodd chwaraewr newydd Caerdydd, Craig Noone, ei lorio yn y cwrt cosbi gan Ronald Zubar a phwyntiodd Andy D’Urso at y smotyn cyn i Whittingham guro Carl Ikeme o ddeuddeg llath.
Rhoddodd Whittingham y tîm cartref ar y blaen ychydig funudau’n ddiweddarach gydag ergyd gywir o ugain llath.
A chwblhaodd ei hatric yn yr ail hanner gyda chic rydd gelfydd yn dilyn trosedd Tongo Doumbia ar Noone.
Whittingham yn cael y goliau felly ond Noone yng nghanol popeth hefyd wrth i dîm Malky Mackay sicrhau eu hail fuddugoliaeth o’r tymor.
Mae’r fuddugoliaeth honno yn eu codi ddeg lle i’r wythfed safle yn nhabl y Bencampwriaeth.
Caerdydd
Tîm: Marshall, McNaughton, Taylor, Hudson, Connolly, Whittingham, Noone (Cowie 74’), Mutch (Gunnarsson 59’), Smith, Helguson, Maynard (Mason 68’)
Goliau: Whittingham 11’ (C.O.S.), 14’, 65’
Cerdyn Melyn: Mutch 18’
Wolves
Tîm: Ikeme, Ward, Johnson, Berra, Zubar (Stearman 73’), Edwards (Nouble 73’), Peszko, Bakary Sako, Doumbia, Ebanks-Blake Booked Doyle
Gôl: Bakary Sako 10’
Cerdyn Melyn: Ebanks-Blake 49’
Torf: 22,020