Aled Sion Davies yn derbyn ei fedal gan Dduges Caergrawnt
Parhau mae llwyddiant cystadleuwyr o Gymru yng Ngemau Paralympaidd Llundain heddiw wrth i Aled Siôn Davies gipio medal aur am daflu disgen.
Dyma’r ail fedal i’r athletwr 21 oed o Ben-y-bont ar Ogwr ei chipio o fewn deuddydd i’w gilydd, gan iddo ennill y fedal efydd ddydd Gwener am daflu siot.
Wrth iddo droi at y dyrfa frwd a chodi’i ddwylo i fyny mewn gorfoledd yn y Stadiwm Olympaidd, meddai:
“Mae’n siŵr mai fi yw’r dyn hapusaf ar y blaned ar hyn o bryd.”
Wrth ei longyfarch, dywedodd Jon Morgan, Cyfarwyddwr Chwaraeon Anabledd Cymru:
“Mae’n bleser arbennig gweld Aled yn ennill yn y Gemau Paralympaidd ar ôl ei wylio’n datblygu trwy Academi Chwaraeon Anabledd Cymru.
“Mae wedi gwneud yn anhygoel yn ei Gemau Paralympaidd cyntaf – roedd ennill y fedal aur ar ben y fedal efydd yn brawf o’i waith caled a’i ymroddiad.”