Claire Williams (llun gan Roger Boole)
Mae Claire Williams, a enillodd fedal efydd am daflu discws yng Ngemau Paralympaidd Llundain ddoe, wedi cael ei chanmol am ei llwyddiant a’i dyfalbarhad.

Hwn oedd y trydydd tro i’r athletwraig 24 oed â nam ar ei golwg o Gaerfyrddin gystadlu mewn Gemau Paralympaidd, ac roedd pellter ei thafliad o 39.63 metr yn ddigon iddi ennill medal am y tro cyntaf.

Dywedodd Jon Morgan, Cyfarwyddwr Chwaraeon Anabl Cymru , fod pawb yn llawenhau yn ei llwyddiant:

“Mae Claire eisoes wedi cystadlu mewn dau Gemau Paralympaidd eisoes ac wedi gorfod dioddef y siom o gadael yn waglaw – fe fydd hyn yn gwneud y fedal efydd yma mae hi’n ei haeddu gymaint yn fwy arbennig fyth.

“Mae hi wedi ychwanegu pumed medal at gyfanswm Cymru ac rydym yn anhygoel o falch o’r hyn y mae hi wedi’i gyflawni.”

Ac meddai Laura McAllister, Cadeirydd Chwaraeon Cymru:

“Mae Llundain 2012 wedi profi tri chynnig i Gymraes i Claire Williams ar ôl iddi gystadlu yng Ngemau Beijing ac Athen, ac rydym mor falch drosti. Fe wnaeth hi daflu’n ffantastig o dda i ennill y fedal efydd iddi’i hun, ac fe ddylai fod yn anhygoel o falch ohoni’i hun.”