Scarlets 45–13 Leinster


Sgoriodd y Scarlets saith cais wrth chwalu Leinster yng ngêm agoriadol y RaboDirect Pro12 ym Mharc y Scarlets nos Sadwrn.

Sicrhawyd y pwynt bonws gyda’r pedwerydd cais yn gynnar yn yr ail hanner ond rhoddwyd gwledd i’r dorf hyd y diwedd wrth i’r rhanbarth ddechrau’r tymor mewn steil.

Dechrau Da

Roedd Ian Madigan wedi cicio’r ymwelwyr ar y blaen cyn i Scott Williams sgorio cais agoriadol y Scarlets wedi chwarter awr. Gosodwyd y sylfaen gan y blaenwyr cyn i Tavis Knoyle ryddhau Williams i sgorio o dan y pyst.

Ychwanegodd Liam Williams yr ail ddeg munud yn ddiweddarach pan gurodd ddau daclwr i gwblhau symudiad da gan yr olwyr.

Llwyddodd Aled Thomas gyda’r ddau drosiad ac ychwanegodd Madigan dri phwynt arall i’r Gwyddelod – 14-6 ar yr egwyl.

Sgoriodd George North y trydydd wedi dim ond dau funud o’r ail hanner. Roedd hi’n ymddangos fod Scott Williams wedi gwastraffu’r cyfle ond adferodd Knoyle y sefyllfa gyda phas hir wych i North a gwnaeth yntau’r gweddill.

Pwynt Bonws

Sicrhawyd y pwynt bonws wedi 48 munud pan diriodd Andy Fenby bedwerydd cais Bois y Sosban. Cafwyd bylchiad gwych gan Aaron Shingler a gwaith cefnogi da gan Knoyle cyn i Fenby groesi yn y gornel.

Llwyddodd Thomas gyda’i drydydd trosiad cyn cael ei eilyddio gan Rhys Priestland.

Daeth y pumed cais chwarter awr o’r diwedd pan groesodd yr eilydd wythwr, Kieran Murphy, yn dilyn gwaith da gan Fenby.

Roedd digon o amser ar ôl i’r asgellwyr, North a Fenby, ychwanegu dau gais arall. Sgoriodd North yn dilyn bylchiad gan yr eilydd fewnwr, Gareth Davies, a chroesodd Fenby am ei ail yn dilyn rhediad a dadlwythiad gwych gan Gareth Maule.

Trosodd Priestland y ddau gais wrth i’r Scarlets orffen gyda 45 o bwyntiau. Ac er i Devin Toner ac Ian Madigan sgorio dau gais cysur i’r Gwyddelod roedd hi’n fuddugoliaeth gyfforddus i dîm Simon Easterby.

Barn yr Hyfforddwr

Roedd Easterby yn hapus iawn ar ddiwedd y gêm ond ddim yn rhoi’r cart o flaen y ceffyl:

“Fe ddechreuon ni’n dda llynedd, fe guron ni Aironi gartref ond wnaethom ni ddim parhau â hynny wedyn. Dyna fydd y sialens inni eleni, rydyn ni wedi gosod safonau uchel ond dim ond un gêm oedd heno yn erbyn tîm Leinster oedd ddim ar eu cryfaf.”

“Rhaid ini fod yn realistig ond dechrau gwych – allwn ni ddim gofyn am ddim mwy na hynny.”

Scarlets

Ceisiau: Scott Williams 14’, Liam Williams 26’, George North 42’, 73’ Andy Fenby 48’, 76’, Kieran Murphy 64’

Trosiadau: Aled Thomas 15’, 27’, 50’, Rhys Priestland 74’, 77’

Leinster

Ceisiau: Devin Toner 62’, Ian Madigan 80’

Trosiadau: Ian Madigan 63’, 80’

Ciciau Cosb: Ian Madigan 4’ 38’

Torf: 6,459