Ellie Simmonds yn dathlu ei buddugoliaeth fawr heno
Mae Ellie Simmonds wedi chwalu record byd wrth gipio’r fedal aur yn y ras 400 metr dull rhydd yn y Gemau Paralympaidd heno.

Bedair blynedd ar ôl ennill yr un ras yng ngemau Beijing, roedd y dorf yn y Parc Olympaidd yn llawn cyffro wrth i’r nofwraig 17 oed o Abertawe gadw’i theitl fel pencampwraig ddiamheuol.

Dim ond yn y 50 metr olaf o’r ras y llwyddodd i ddal i fyny a churo’i phrif wrthwynebydd, Victoria Arlen o America, a oedd yn dal y record byd am nofio 400 m dull rhydd tan heno. Llwyddodd Ellie Simmonds i chwalu’r record honno trwy dorri pum eiliad oddi arni.

Ar ôl y ras, roedd Ellie Simmonds yn ei dagrau wrth iddi dalu teyrnged i’r dorf. “Roedd yn ras mor galed,” meddai.

“Roedd mor galed ar y 100 olaf a meddyliais fod yn rhaid imi roi fy mhen i lawr a chyflawni hyn i bawb sydd wedi fy nghefnogi. Mae pawb wedi bod yn dymuno lwc dda mi, ac fe wnes i hyn drosof fy hun, fy nheulu, a phawb.”

Ymysg y rhai i’w llongyfarch yn fuan ar ôl ei buddugoliaeth oedd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones:

“Llongyfarchiadau mawr i Ellie Simmonds ar ei medau aur yn y Gemau Paralympaidd,” meddai. “Mae ennill aur mewn dau o gemau’n dipyn o gamp ond mae gwneud hyn erbyn yr oedran o 17 yn anhygoel. Da iawn Ellie!”

Roedd ei buddugoliaeth nodedig  yn goron ar ddiwrnod hynod lwyddiannus i athletwyr paralympaidd Prydain. Mae ganddyn nhw bellach 34 o fedalau rhyngddyn nhw – naw medal aur, 14 arian a 11 efydd.

Ymhlith enillwyr y medalau efydd mae Cymraes o Gaerfyrddin, Claire Williams, ar ôl llwyddo yn rownd derfynol taflu’r discen heddiw.