Connacht 9–13 Gleision
Cafodd y Gleision ganlyniad da yn eu gêm gyntaf o’r tymor newydd yn y RaboDirect Pro12 wrth guro Connacht ym Maes Chwarae Galway nos Sadwrn.
Roedd cicio cywir Ceri Sweeney a chais y mewnwr ifanc, Lewis Jones, yn yr hanner cyntaf yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth i’r Gleision er i’r Gwyddelod daro’n ôl wedi’r egwyl.
Methodd Miah Nikora gyda chynnig cynnar at y pyst i Connacht cyn i Sweeney roi’r ymwelwyr ar y blaen gyda chic gosb hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf.
Dyblodd y maswr fantais y Gleision bum munud yn ddiweddarach gyda chic gosb arall.
Yna wedi hanner awr o chwarae torrodd Jones yn rhydd i sgorio unig gais y gêm ac ychwanegodd Swenney’r ddau bwynt gyda chic lwyddiannus arall.
Cafodd Nikora gyfle i gau’r bwlch gyda chic olaf yr hanner ond methu a wnaeth y maswr cartref unwaith eto.
Roedd cicio Nikora dipyn cywirach wedi’r egwyl wrth iddo lwyddo gyda thair cic gosb, ond nid oedd hynny’n ddigon i atal y Gleision rhag hawlio buddugoliaeth yng ngêm gyntaf y tymor yn y Pro12.
Connacht
Ciciau Cosb: Miah Nikora 45’, 66’, 69’
Gleision
Cais: Lewis Jones 30’
Trosiad: Ceri Sweeney 30’
Ciciau Cosb: Ceri Sweeney 20’, 25’