Mae nyrs a drywanodd ei merch pedair oed i farwolaeth, cyn ceisio lladd ei hun, wedi cael ei charcharu am 12 mlynedd.

Roedd Dawn Makin, 35, yn dioddef o iselder ar ôl iddi gael ei diswyddo am honiadau ei bod wedi rhoi gwybodaeth bersonol am gleifion i gwmni sy’n delio gydag achosion o anafiadau personol.

Mae Dawn Makin bellach mewn cadair olwyn ar ôl iddi yfed anti-freeze mewn ymgais i ladd ei hun.

Clywodd Llys y Goron Preston heddiw ei bod hi’n dioddef o broblemau meddyliol pan wnaeth hi drywanu ei merch yn ei chartref yn Bury ac yna yfed anti-freeze.

Fe gyfaddefodd Dawn Makin ddynladdiad ei merch, Chloe, ar sail cyfrifoldeb lleiedig.

Y digwyddiad

Roedd Dawn Makin wedi pasio’r wybodaeth gyfrinachol ymlaen i’w chariad ar y pryd, Martin Campbell, a oedd yn gweithio i’r cwmni.

Oherwydd cwyn gan glaf, cafodd Dawn Makin ei diswyddo ym mis Awst 2010.

Ym mis Ionawr 2011 fe wahanodd y cwpl, a mis yn ddiweddarach cafodd Dawn Makin wybod ei bod yn wynebu achos llys o ganlyniad i’r cyhuddiadau.

Dau ddiwrnod yn ddiweddarach, cafwyd hyd i gorff ei merch yn gorwedd mewn pyjamas glân wedi’i hamgylchynu gan deganau.

Roedd hi wedi cael ei thrywanu yn ei brest a’i gwddf.

Ar ôl yr ymosodiad, roedd y fam wedi golchi’r dillad a oedd wedi’u gorchuddio mewn gwaed ac wedi ail-wisgo’r ferch mewn dillad glân.

Daeth mam Dawn Makin, Sheila, o hyd i’r nyrs yn fyw ond mewn cyflwr difrifol ac fe gafodd ei chludo i’r ysbyty.