Bydd y gig gyda Bryn Fon yn mynd yn ei flaen nos Sadwrn
Sioe Llandysul y penwythnos nesaf yw’r sioe ddiweddaraf i gael ei chanslo o achos y tywydd diflas.

Dywed y trefnwyr fod y cae yn rhy wlyb, ond y bydd y gig mawr blynyddol gyda Bryn Fôn, Newshan ac Eric Blaendyff, yn mynd yn ei flaen ar y safle yn Saron nos Sadwrn.

Yn ystod yr haf mae amryw o sioeau wedi cael eu canslo ledled Cymru o achos y tywydd, gan gynnwys Caernarfon, Aberystwyth, Bancffosfelen yn Sir Gaerfyrddin a Machen ger Caerffili.

Y penwythnos diwethaf bu’n rhaid canslo un o ddiwrnodau Rasus Tregaron, a symud y ddau ddiwrnod arall i drac aml-dywydd yn Nhairgwaith, ger Gwaun-Cae-Gurwen.

Mae’r cystadlaethau llysiau a chrefftau yn Sioe Llandysul yn dal i fynd yn eu blaen ddydd Sadwrn, ac yn cael cysgod o’r elfennau yn Neuadd Tysul yn Llandysul.