Tywysog Harry
Mae 3,600 o gwynion wedi cael eu gwneud i Gomisiwn Cwynion y Wasg (PCC) ynglŷn â lluniau o’r Tywysog Harry yn noeth yn y Sun.

Roedd y papur newydd yn un o’r cyntaf ym Mhrydain i gyhoeddi’r lluniau ddydd Gwener, gan ddadlau bod y lluniau er budd y cyhoedd ac yn brawf o ryddid y wasg.

Dywedodd y PCC bod y cwynion wedi cael eu gwneud gan aelodau o’r cyhoedd ac nad oedden nhw wedi derbyn unrhyw gwynion gan Balas St James neu unrhyw un arall yn cynrychioli’r Teulu Brenhinol.

Roedd y lluniau o’r Tywysog yn noeth yn ystod parti yn ei ystafell breifat mewn gwesty yn Las Vegas wedi cael sylw byd-eang.

Roedd Palas St James, trwy’r PCC, wedi galw ar bapurau yn y DU i ddangos parch tuag at breifatrwydd y Tywysog.

Dywedodd golygydd y Sun David Dinsmore eu bod wedi ystyried yn ddwys cyn cyhoeddi’r lluniau ond eu bod yn teimlo ei fod yn brawf o ryddid y wasg yn hytrach na gwneud sylwadau moesegol am ymddygiad y Tywysog.