Parhau mae’r chwilio am ddyn sydd ar goll ar ôl i ganŵ droi drosodd mewn culfor yn yr Alban ddydd Sul. Bu farw tri o blant yn dilyn y digwyddiad.

Roedd Ewen Beaton, 32, ymhlith chwech o bobl, gan gynnwys pedwar o blant, oedd yn y cwch pan oedd wedi troi drosodd yn Llyn Gairloch ger Ullapool yn Ucheldiroedd yr Alban.

Bu farw ei feibion Jamie, 2, a Ewen, 5, yn ddiweddarach nos Sul ar ôl cael eu hachub o’r dŵr gan hofrennydd a’u cludo i’r ysbyty,

Roedd trydydd plentyn, Gracie Mackay, 5, wedi marw yn yr ysbyty bnawn ddoe. Fe lwyddodd ei thad a’i chwaer i nofio i’r lan.

Dywed timau achub nad ydyn nhw’n disgwyl dod o hyd i Ewen Beaton yn fyw.