Gary Dobson a David Norris
Mae’r ddau ddyn gafodd eu carcharu am lofruddio’r llanc croenddu Stephen Lawrence wedi colli eu cais cyntaf yn y Llys Apêl yn erbyn eu dedfrydau.

Cafodd Gary Dobson a David Norris, sy’n parhau i fynnu eu bod nhw’n ddieuog, eu carcharu am oes yn yr Old Bailey ym mis Ionawr.

Mae eu cais am yr hawl i apelio wedi cael ei wrthod gan farnwr ond fe all Dobson a Norris ail-gyflwyno eu ceisiadau yn y Llys Apêl.