Jennifer Haywood
Mae’r heddlu yn apelio am gymorth i ddod o hyd i ferch ifanc o Gasnewydd sydd ar goll.

Cafodd Jennifer Haywood, 17, ei gweld y tro diwethaf ddydd Sul, 12 Awst, yn ei chartref yn Y Tŷ Du, Casnewydd.

Mae’n cael ei disgrifio fel pum troedfedd saith modfedd, corff main, prydliw gwelw, llygaid glas a gwallt syth wedi’i liwio’n olau hyd at ei hysgwydd.

Mae swyddogion Heddlu Gwent yn credu fod ganddi gysylltiadau ym Merthyr Tudful, Tredegar a Colchester.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio Heddlu Gwent ar 101.