Bydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cael ei annog gan y Llywodraeth i sefydlu canghennau dramor er mwyn cynhyrchu incwm a chodi proffil rhyngwladol y GIG.

Yn yr hydref, bydd swyddogion o’r Adrannau Iechyd a Masnach a Diwydiant yn y DU yn lansio cynllun ar y cyd yn y gobaith o adeiladu cysylltiadau rhwng ysbytai sydd eisiau ehangu, yn ogystal â llywodraethau tramor sydd eisiau mynediad i wasanaethau iechyd Prydeinig.

O dan y cynllun, gall ysbytai fel Great Ormond Street a Royal Marsden sefydlu canghennau newydd dramor.

Yn ôl adroddiadau, y syniad yw y bydd unrhyw elw fydd yn cael ei wneud dramor yn cael ei sianelu’n ôl i Brydain.

Ysbrydoli gan America

Cafodd y cynigion eu hysbrydoli, mae’n debyg, gan ysbytai yn America, gan gynnwys John Hopkins yn Baltimore, a fu’n sefydlu canghennau tebyg dramor.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Anne Milton, “Mae hyn yn newydd da i gleifion y GIG a fydd yn derbyn gwell gwasanaeth yn eu hysbytai lleol o ganlyniad i waith y GIG dramor a’r buddsoddiad ychwanegol bydd yn ei greu.”

“Mae hyn hefyd yn newyddion da i’r economi a fydd yn elwa o swyddi ychwanegol a refeniw newydd fydd yn cael ei greu,” ychwanegodd.

“Mae gan ein gwasanaeth iechyd enw da yn fyd-eang, ac mi fydd y datblygiad cyffrous yma’n gwneud y mwyaf o hynny ac o fudd i’n cleifion a’n trethdalwyr.”

‘Pryderus’

Ond mae’r cynllun wedi cael ei feirniadu gan brif weithredwr Asiantaeth y Cleifion.

“Prif ganllaw’r GIG yw sicrhau fod gofal y cleifion yn dod o flaen elw,” meddai Katherine Murphy wrth yr Independent.

“Mewn amser o galedi mawr yn y gwasanaeth iechyd, lle mae amseroedd aros  yn cynyddu a lle mae ymddiriedolaethau yn gorfod gwneud arbedion o £20 biliwn, mae hyn yn wrthdyniad pryderus arall,” ychwanegodd.