Mae o leiaf un person wedi ei ladd ac wyth arall wedi eu hanafu ar ôl i fom ffrwydro ar ochr y ffordd yn ne orllewin Pacistan, yn ôl yr heddlu.
Roedd y bom yn targedu confoi o luoedd diogelwch, ond dywed yr heddlu na chafodd y milwyr eu hanafu yn yr ymosodiad ar gyrion Quetta, prifddinas talaith Baluchistan.
Mae’n debyg mai pobl gyffredin gafodd eu lladd neu eu hanafu gan y bom wrth deithio trwy’r ardal yn eu cerbydau.
Does neb wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad hyd yn hyn ond mae ’na amheuon mai grŵp o genedlaetholwyr yn Baluchistan sy’n gyfrifol. Maen nhw wedi bod yn galw am fwy o annibyniaeth ers degawdau ac yn aml yn targedu lluoedd diogelwch Pacistan.