Mae’r Prif Weinidog, David Cameron, wedi dweud y dylai chwaraeon mewn ysgolion cynradd fod yn rhai cystadleuol.

Roedd yn feirniadol o’r arfer o o gynnal “gwersi dawnsio Indiaidd” a pethau tebyg mewn ysgolion.

Mae’r Prif Weinidog wedi bod dan bwysau wedi iddo gyhoeddi na fyddai yn rhaid i ddisgyblion gyflawni dwy awr o ymarfer corff bob wythnos.

Ond dywedodd y dylid cynnwys gofyniad bod unrhyw ymarfer corff yn chwaraeon cystadleuol yng nghwricwlwm cenedlaethol Lloegr.

Mae pwysigrwydd chwaraeon cystadleuol wedi ei amlygu gan lwyddiant Tîm GB yn y Gemau Olympaidd.

Ofn rhai yw na fydd y llwyddiant yn cael ei ail-adrodd os oes llai o bwyslais ar ymarfer corff mewn ysgolion.

Dywedodd Maer Llundain, Boris Johnson, y dylai ysgolion gynnal dwy o ymarfer corff bob diwrnod, fel yn Eton.

Ond cwynodd David Cameron bod nifer o ysgolion “yn cwrdd â’r targed drwy gynnal dawnsiau Indiaidd neu bethau tebyg sydd ddim yn cael eu hystyried yn chwaraeon”.