Mae trefnwyr y Gemau Olympaidd yn Llundain wedi addo mai’r Seremoni Cau yfory fydd y fwyaf erioed.

Fe fydd y seremoni yn gyfle i drosglwyddo baton y Gemau Olympaidd i’r trefnwyr nesaf, sef Rio de Janeiro, a fydd yn cynnal y Gemau yn 2016.

Fe fyddwn nhw’n cynnal dathliad wyth munud er mwyn cyhoeddi eu gemau nhw, ond fe fydd y seremoni cau yn parhau am dair awr yn ei chyfanrwydd.

Dywedodd y trefnwyr y bydd y seremoni cau yn cynnwys cymysgedd o gerddoriaeth glasurol a rhai o gantorion pop mwyaf y 50 mlynedd ddiweddaraf.

Y disgwyl yw y bydd y Spice Girls, ymysg eraill, yn cymryd rhan yn y seremoni.

Bydd yna elfen o gomedi, hefyd, â David Jason a Nicholas Lyndhurst yn chwarae rhan Del Boy a Rodney Trotter mewn gwisgoedd Batman.

Yna fe fydd Eric Idle o grŵp Monty Python yn canu can Always Look on the Bright Side of Life.

Mae sïon y bydd The Who, Take That, Elton John, The Kinks, Adele, Kaiser Chiefs a Madness hefyd yn cymryd rhan.

Y disgwyl yw y bydd rhai tocynnau i’r seremoni cau yn cael eu gwerthu ychydig oriau yn unig cyn y dechrau.

Nes bod y setiau yn eu lle, dyw’r trefnwyr ddim yn gwybod faint o docynnau fydd ar gael, medden nhw.