Jade Jones
Mae Cyngor Sir y Fflint yn gobeithio ail enwi canolfan hamdden yn y Fflint er clod y pencampwr taekwondo Jade Jones.

Bu’r Post Brenhinol wrthi’n paentio blwch post ar Stryd yr Eglwys yn y dref yn aur ddoe er mwyn dathlu camp Jade Jones yn y Gemau Olympaidd yn Llundain.

Mae cyngor y dref hefyd wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu croesawu’r ferch 19 oed yn ôl i’r dref â pharti mawr.

Dywedodd arweinydd Cyngor Sir y Fflint, Aaron Shotton, mai’r gobaith yw ail enwi’r ganolfan hamdden, ‘Y Pafiliwn’, yn ei henw hi.

“Mae hi wedi cyflawni cymaint, a hithau mor ifanc,” meddai wrth y Daily Post. “Rydyn ni’n falch iawn drosti. Mae’n ysbrydoliaeth ac rydyn ni’n falch ei bod hi’n dod o Sir y Fflint.”

Dywedodd arweinydd Cyngor Tref y Fflint, Ian Roberts, ei bod hi “wedi rhoi’r Fflint ar y map”.

“Rydyn ni’n awyddus i ail-enwi’r ganolfan hamdden, os yw Jade yn caniatáu. Y gobaith yw y bydd hynny’n digwydd o fewn yr wythnosau nesaf,” meddai.