Gareth Bale
Mae hyfforddwr Cymru, Chris Coleman, yn disgwyl y bydd Gareth Bale yn barod i chwarae dros Gymru yn erbyn Bosnia a Hercegovina dydd Mercher.
Cafodd y chwaraewr 23 oed ei enwi yn sgwad Chris Coleman ar gyfer y gêm gyfeillgar yn Llanelli ddoe.
Dyma gêm olaf Cymru cyn dechrau ar eu hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd 2014 ym Mrasil.
Gwlad Belg fydd gwrthwynebwyr cyntaf Cymru, fis nesaf.
Doedd Bale ddim ar gael ar gyfer gêm gyfeillgar Cymru yn erbyn Mecsico yn Efrog Newydd fis diwethaf, a methodd a chymryd rhan yn anturiaethau Tîm GB oherwydd anaf i’w gefn.
Cafodd ei feirniadu yn ddiweddarach am chwarae gêm gyfeillgar i Tottenham Hotspur pan oedd y Gemau Olympaidd yn mynd rhagddynt.
Dywedodd Coleman ei fod yn disgwyl y bydd Bale yn rhan o’r sgwad a fydd yn cwrdd ddydd Sul.
“Roedd ambell i bryder am ei fod wedi gorfod gadael Tîm GB â’r un broblem cefn a oedd ganddo cyn i ni wynebu Mecsico,” meddai.
“Ond ers hynny mae wedi chwarae tair gêm gyfeillgar gyda Tottenham ac wedi hyfforddi, felly rwy’n obeithiol iawn y bydd ar gael.
“Mae’n bwysicach i ni na’r gêm ddiweddaraf, am mai dyma’r gêm olaf cyn Gwlad Belg.
“Bydd chwaraewr o safon Bale yn cael ei feirniadu o hyd. Mae yn ddigon o foi i dderbyn hynny.”